

Rydym yn falch o wahodd athrawon mathemateg ysgolion uwchradd a phenaethiaid adrannau mathemateg i ymuno â ni ar gyfer y Sioe Deithiol Mathemateg Dysgu, mewn partneriaeth ag Estyn — sef cyfle i archwilio strategaethau wedi’u seilio ar dystiolaeth sy’n cryfhau addysgu mathemateg, arweinyddiaeth a deilliannau dysgwyr.
Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys:
Dyddiadau a Lleoliadau’r Digwyddiad
Dewiswch o sesiwn fore neu brynhawn ar draws tair lleoliad:
Bydd pob sesiwn ddwyieithog yn cynnwys cymorth cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Seasneg.
Amserlen y bore:
09:00 – 09:30 Cofrestru
09:30 – 12:15 Hyfforddiant
Amserlen y prynhawn:
13:30 – 14:00 Cofrestru
14:00 – 16:45 Hyfforddiant
Sut i Gofrestru
Rhestr aros
Mae'r sesiynau canlynol bellach yn llawn:
Caerdydd - sesiwn y bore (Saesneg)
Abertawe - sesiwn y boe (Seasneg)
Caernarfon - sesiwn y bore (Dwyieithog)
Os hoffech fynychu ond mae'ch sesiwn dewisiol yn llawn, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros. Byddwn mewn cysylltiad os bydd lle yn agor. Os oes galw am gyfres bellach o ddigwyddiadau, byddwn yn cysylltu gyda'r rhai ar y rhestr aros.
Pan fyddwch yn cofrestru, bydd angen i chi sefydlu cyfrinair sy'n unigryw i'r digwyddiad hwn. Os oes angen i chi newid eich archeb bydd angen y cyfrinair hwn arnoch, felly cadwch ef yn ddiogel. Os hoffech ganslo eich archeb ebostiwch digwyddiadau@estyn.llyw.cymru fel bod modd ailagor eich lle.
Gallwch dod o hyd i gyfarwyddiadau i'r lleoliadau ar wefannau'r lleoliadau:
Penaethiaid Mathemateg.
Athrawon uwchradd sy’n gweithio mewn ysgolion uwchradd / yn y sector uwchradd mewn ysgolion pob oed.
Arweinwyr sydd â chyfrifoldeb am wella mathemateg.
Na, bydd angen i chi dalu am eich costau teithio a chynhaliaeth eich hun.
Os na allwch chi weld dyddiad neu leoliad penodol ar y gwymplen, yna mae’r sesiwn yn llawn. Rydym yn argymell gwirio’r dudalen yn rheolaidd os oes lle wedi dod ar gael.
Cysylltwch â'r tîm Digwyddiadau: digwyddiadau@estyn.llyw.cymru, 02920 446510
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Rhoddir blaenoriaeth gyfartal i ohebiaeth a dderbynnir yn y naill iaith neu'r llall. Bydd Estyn yn defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu i drefnu a llywio'r hyfforddiant hwn yn unig a bydd yn ei chadw yn unol â'n polisi cadw.